1.   Ysgrifennir yr ymateb hwn ar ran Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn dilyn ymgynghoriad gyda’n haelodau. Ceir rhestr lawn o’n haelodau yma: http://www.cytun.org.uk/ni.html  Mae ein haelod fudiadau yn cynnwys rhyw 172,000 o aelodau unigol ar draws Cymru, ynghyd â miloedd yn rhagor sy’n cefnogi eglwys leol neu un o’r mudiadau Cristnogol eraill mewn gwahanol ffyrdd.

2.   Rydym yn diolch i’r Pwyllgor am wahodd syniadau ar gyfer ei raglen waith ar gyfer 2016-21 ac i’r Cadeirydd am ei chyfweliadau ar y we yn cyflwyno’r maes.

3.   Hoffem dynnu sylw’r Pwyllgor at fater brys parthed yr iaith Gymraeg, sef effaith cymalau Bil Cymru 2016-17 ar allu’r Cynulliad i ddeddfu parthed defnydd yr iaith Gymraeg gan Lywodraeth y Deyrna Unedig a’r sefydliadau sydd dan ei rheolaeth. Mae Atodlen 1 para 200 yn y Bil sydd gerbron Senedd San Steffan ar hyn o bryd yn ymddangos fel pe bai'n datganoli pob mater ynghylch yr iaith Gymraeg ac awdurdodau cyhoeddus, nes i chi ei ddarllen gydag Atodlen 2 cymal 11(1)(b) sy'n dweud na all y Cynulliad newid unrhyw gyfrifoldeb i Weinidogion y Goron (h.y. gweinidogion y DU) parthed yr iaith Gymraeg heb eu caniatâd.

Pan ychwanegir at hynny gynnwys Atodlen 4, sy'n rhestru rhai cyrff cyhoeddus fel "cyrff datganoledig", gyda'r gweddill i gyd yn gyrff wedi eu cadw, ac Adran 21 yr atodlen honno sydd yn tynnu'r rheidrwydd ar Weinidogion y Goron i ymgynghori â Gweinidogion Cymru parthed cyrff trawsffiniol a gedwir, mae hyn yn golygu cryn leihad yng ngallu'r Cynulliad i ddeddfu parthed defnydd yr iaith Gymraeg gan gyrff cyhoeddus nad ydynt wedi eu datganoli, a gallu Gweinidogion Cymru i ymwneud â phenderfyniadau (megis penderfyniadau parthed yr iaith) o ran cyrff trawsffiniol.

Wedi dweud hynny, gan na fyddai’r Bil yn ôl-effeithiol, byddai dyletswyddau cyfreithiol ar y cyrff hyn dan Gynlluniau Iaith a Safonau Iaith o dan ddeddfwriaeth flaenorol yn parhau. Ni ellid deddfu i’w cryfhau, a byddai cymhlethdod rhyfeddol o gael tri system deddfwriaethol parthed y Gymraeg yn cyd-redeg. Gan fod y Bil yn cael ei drafod ar hyn o bryd, credwn fod hyn yn fater brys i’r Pwyllgor ymgymryd ag ef.

4.   Yn y tymor hwy, byddem yn croesawu ymchwiliad gan y Pwyllgor i’r ‘diffyg democrataidd’ yng Nghymru oherwydd diffyg cyfryngau cynhenid Gymreig. Mae’r mater hwn wedi ei godi gan sawl mudiad, a chan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r BBC, yn y broses o adolygu Siarter y BBC, ond nid ydym yn ffyddiog fod yr hyn a gynigir ar hyn o bryd gan y BBC yn ddigon i gwrdd â’r her. Roeddem fel eglwysi yn poeni’n ddirfawr am diffyg gwedd Gymreig ar drafodaethau’r refferendwm ar yr holl gyfryngau a diffyg darlledu byw o’r Cynulliad hyd yn oed ar adegau pwysig a chyffrous (megis ethol Prif Weinidog ar ôl etholiad Mai 2016). Fe fu i Gynulliad blaenorol drafod y mater, a bu hyn yn fodd i gynnig nawdd i wefan Golwg 360. Tra’n croesawu hynny, credwn fod angen amrywiaeth o gyfryngau – yn y Saesneg, y Gymraeg ac mewn ieithoedd lleiafrifol – sy’n gallu cyflwyno a dehongli bywyd Cymru, a bywyd y byd trwy lygaid Cymreig, a byddem yn falch o gyfrannu at ymchwiliad o’r fath.

5.   Rydym yn ymwybodol o faes gwaith eang a phwysig eich Pwyllgor, ac y bydd blaenoriaethu ymhlith yr holl bynciau pwysig a ddaw i’ch sylw yn anodd. Dymunwn yn dda i chi yn eich gwaith ac edrychwn ymlaen at allu eich cynorthwyo, ac at elwa o ffrwyth eich llafur.